Pan fydd ymchwil farchnad wleidyddol yn croesi’r llinell

When political market research crosses the line

Steve Eckersley, Pennaeth Gorfodaeth yr ICO

When political market research crosses the lineMae’r ICO wedi cwblhau ei ymchwiliad i ymgyrch ffôn gan y Blaid Geidwadol yn y cyfnod yn arwain at etholiad cyffredinol 2017.

Cododd ymchwiliad cudd gan raglen Channel 4 News bryderon ynghylch yr ymgyrch a oedd yn cynnwys galwadau gan Blue Telecoms, cwmni yng Nghastell-nedd, ar ran y Blaid Geidwadol.
Sbardunodd y pryderon hyn ymchwiliad gan yr ICO i weld a wnaeth yr ymgyrch gydymffurfio â’r gyfraith ar ddiogelu data a marchnata electronig.

Rydym wedi canfod bod dwy adran fach o’r sgriptiau ysgrifenedig a ddefnyddid gan y rhai a oedd yn gwneud y galwadau wedi croesi’r llinell rhwng ymchwil farchnad ddilys a marchnata uniongyrchol anghyfreithlon. Rydyn ni wedi rhybuddio’r Blaid Geidwadol am wneud pethau’n iawn y tro nesaf.

Marchnata uniongyrchol v ymchwil farchnad mewn gwleidyddiaeth

Mae ymchwil farchnad yn helpu pleidiau gwleidyddol i fwydo’u safbwyntiau a llunio polisïau. Mae cwestiynau am fwriad wrth bleidleisio, canfod pa Brif Weinidog fyddai orau gan rywun neu annog pobl yn gyffredinol i fynd allan i bleidleisio i gyd yn ymchwil farchnad ddilys.

Ond, os caiff y cwestiynau eu llunio mewn modd sy’n ceisio ennill cefnogaeth – naill ai nawr neu rywbryd yn y dyfodol – mae hynny’n croesi’r llinell i mewn i farchnata uniongyrchol. Rydym yn golygu pethau fel hybu nodau a delfrydau plaid benodol, apelio am arian, neu annog pobl i bleidleisio dros blaid neu ymgeisydd penodol.

Mae’r gyfraith yn amddiffyn pobl rhag y math hwn o farchnata am ei fod yn gallu bod yn ymyrgar.

Mae marchnata uniongyrchol – boed drwy negeseuon ebost, negeseuon testun neu alwadau ffôn – yn cael ei reoleiddio gan yr ICO o dan y Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig (PECR).

Beth wnaeth y Blaid Geidwadol o’i le?

Fel rhan o’n hymchwiliad, astudiwyd sgriptiau a recordiadau o alwadau a chawsom ein bodloni bod y cwestiynau, yn gyffredinol, yn adlewyrchu ymgyrch ymchwil farchnad ddilys.

Ond roedd gennyn ni bryderon ynghylch dwy adran a oedd yn ein barn ni y tu allan i ffiniau ymchwil farchnad. Cyfeiriai’r ddau baragraff hyn at Theresa May a Jeremy Corbyn mewn perthynas â dewisiadau polisi.

Beth sy’n digwydd nawr?

Rydyn ni heb fynd mor bell â chymryd camau rheoleiddio ffurfiol am mai ymchwil farchnad ddilys oedd yr ymgyrch yn gyffredinol. Doedd y ddwy adran a barodd bryder inni ddim yn ddigon i sbarduno camau gorfodi ffurfiol o’u hystyried ar y cyd â’r ymgyrch yn ei chrynswth. Yn ychwanegol, doedd canlyniadau’r arolwg ddim yn cael eu harbed yn erbyn enw unrhyw unigolyn ac felly fyddai dim modd targedu’r unigolion ar gyfer marchnata yn y dyfodol.

Ond rydyn ni wedi bod yn glir ynglŷn â’r hyn rydyn ni’n ei ddisgwyl yn y dyfodol.

Rydym wedi rhybuddio’r blaid fod rhaid i’w hymgyrchoedd gael eu gwirio’n drylwyr am gwestiynau sydd y tu allan i ffiniau ymchwil farchnad.

Ac er nad ydym wedi defnyddio grym llawn ein pwerau rheoleiddio yn yr achos hwn, fe fyddwn yn parhau i gadw llygad ar bob plaid wleidyddol wrth ddynesu at etholiadau yn y dyfodol ac yn ailadrodd ein cyngor iddynt fod rhaid cydymffurfio â’r deddfau ar ddiogelu data a phreifatrwydd wrth ymgyrchu.

Ceir rhagor o gyngor am y gwahaniaeth rhwng ymchwil farchnad a marchnata uniongyrchol yn ein canllawiau ar ymgyrchu gwleidyddol.

Steve EckersleySteve Eckersley yw arweinydd Tîm Gorfodaeth yr ICO. Nod y tîm yw cymryd camau pwrpasol, wedi’u seilio ar risg, pan fo rhwymedigaethau’n cael eu hanwybyddu, pan fo angen gosod esiampl neu pan fo angen egluro materion, a hynny ar sail Polisi Camau Rheoleiddio’r ICO.

This entry was posted in ICO. Bookmark the permalink.

Leave a Reply